SL(5)XXX Gorchymyn Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Refeniw Cymru) 2018

Cefndir a Phwrpas

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu bod cyfeiriadau at ymchwilwyr ariannol achrededig yn Neddf Enillion Troseddau 2002 ('POCA') i'w darllen fel cyfeiriadau at ymchwilwyr ariannol achrededig sy'n aelodau o staff Awdurdod Refeniw Cymru (WRA).

Gall ymchwilwyr ariannol achrededig wneud cais am orchmynion atal dan Ran 2 o POCA a gallant atafaelu eiddo y mae unrhyw orchymyn o'r fath yn gymwys iddo. Gall ymchwilwyr ariannol achrededig hefyd chwilio am, atafaelu, manylu a gwneud cais am fforffedu arian parod. Cyn ymarfer pwerau chwilio rhaid iddynt gael cymeradwyaeth ymlaen llaw gan ynad heddwch neu uwch swyddog (oni bai yn yr amgylchiadau nad yw'n ymarferol gwneud hynny).

Gall ymchwilwyr ariannol achrededig hefyd wneud cais am orchmynion a gwarantau mewn perthynas â chymeryd ymaith, gwyngalchu arian ac ymchwiliadau arian parod a gadwyd. Gall pwrpas gorchmynion a gwarantau o'r fath gynnwys ee ei gwneud yn ofynnol i rywun gynhyrchu deunydd penodol, caniatáu chwilio ac atafaelu deunydd o eiddo a'i wneud yn ofynnol i sefydliad ariannol ddarparu gwybodaeth am gwsmeriaid. Dim ond ymchwilydd ariannol achrededig sydd (yn dibynnu ar natur y gorchymyn neu'r warant) naill ai yn berson priodol, yn swyddog priodol neu'n uwch swyddog priodol a all wneud cais am a/neu arfer y pwerau a ddarperir gan orchmynion a gwarantau o'r fath.

Y weithdrefn

Negyddol

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi pwerau sylweddol i'r WRA. Rhoddwyd esboniad nad yw'n ymddangos yn afresymol. Serch hynny, tynnir sylw at y Gorchymyn ar y sail ei fod o bwys cyfreithiol neu wleidyddol neu'n peri materion polisi cyhoeddus sy'n debygol o fod o ddiddordeb i'r Cynulliad. [Rheol Sefydlog 21.3(ii)]

Goblygiadau sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r adroddiad ac yn cydnabod bod yr OS hwn yn cynnwys materion sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Mawrth 2018